'Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan y Ceidwadwyr' - Angela Rayner (2024)

'Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan y Ceidwadwyr' - Angela Rayner (1)Ffynhonnell y llun, Reuters

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan y Blaid Geidwadol Brydeinig ac mae angen Keir Starmer i wasanaethu pobl y wlad, yn ôl dirprwy arweinydd Llafur.

Roedd Angela Rayner yn dechrau ymgyrch Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn swyddogol mewn digwyddiad yn Llandudno ddydd Gwener.

Doedd arweinydd Llafur Cymru, Vaughan Gething, ddim yn gwneud cyfweliadau i'r cyfryngau yn y digwyddiad, gyda phleidiau eraill yn ei gyhuddo o "guddio" neu "beidio bod yn atebol".

Mae Mr Gething wedi cael ei feirniadu am dderbyn rhoddion ariannol dadleuol yn ystod ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod Mr Gething wedi gwneud cyfweliadau ddydd Mercher a dydd Iau, ac y bydd "digon o gyfleoedd" i'w gyfweld yn ystod yr ymgyrch.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Doedd dim syndod bod Llafur wedi dewis gogledd Cymru fel lleoliad i lansio'u hymgyrch.

Fe gipiodd y blaid Geidwadol, oedd yn cael ei harwain gan Boris Johnson ar y pryd, bum sedd yn yr ardal yn 2019, a bydd Llafur yn rhoi llawer o bwyslais ar geisio adennill seddi yr ardaloedd hynny, gyda ffiniau etholiadol newydd ar gyfer yr etholiad yma.

Bydd y 40 sedd yn 2019 yn dod yn 32 sedd yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, er mwyn cyfleu faint o bobl sy'n byw ym mhob etholaeth.

Un sedd sy'n aros yr un fath. Cafodd Ynys Môn statws arbennig fel ynys.

'Eisiau gweithio gyda Chymru'

Dywedodd Ms Rayner wrth BBC Cymru mai'r "un thema allweddol fan hyn" yw bod "Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan y Ceidwadwyr yn llywodraeth y Deyrnas Unedig".

"Rydw i eisiau gweithio gyda Chymru er mwyn rhoi hwb i'r economi a sicrhau bod Cymru ar flaen y gad," dywedodd.

Dywedodd y byddai llywodraethau Llafur yn Llundain a Chaerdydd "yn gweithio gyda'i gilydd".

Ond pwysleisiodd na fyddai'n "cymryd unrhyw bleidlais yn ganiataol mewn etholiad mor dyngedfennol".

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies

Bydd y ffaith nad oedd arweinydd newydd Llafur Cymru’n gwneud cyfweliadau yn lansiad ymgyrch etholiadol ei blaid yn sicr wedi codi aeliau.

Mae'r blaid yn dweud bod Vaughan Gething yn barod wedi gwneud cyfweliadau ddoe a dydd Mercher, ac y bydd "digon o gyfle" i'w gyfweld eto dros yr wythnosau nesaf.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod dau ffigwr blaenllaw arall, gan gynnwys dirprwy arweinydd Llafur drwy’r Deyrnas Unedig, Angela Rayner, wedi siarad â'r cyfryngau.

Ond o ystyried y ffrae am roddion dadleuol i'w ymgyrch arweinyddiaeth, mae'n anochel y bydd beirniaid Mr Gething yn awgrymu ei fod yn ceisio osgoi mwy o gwestiynau lletchwith.

Tra’n ymgyrchu ddoe mynnodd Mr Gething nad oedd y sgandal, sydd wedi taflu cysgod dros ei ddeufis cyntaf yn y swydd, yn codi ar garreg y drws ac nad oedd yn poeni y byddai'n tynnu sylw oddi ar ymgyrch ei blaid cyn yr etholiad.

Ac eto, ar y diwrnod y lansiodd ei blaid ei hymgyrch yn swyddogol, unwaith eto mae ei benderfyniad i dderbyn yr arian yna’n codi.

Ffynhonnell y llun, Reuters

"Rydyn ni wedi cael 14 mlynedd o anhrefn dan y Ceidwadwyr," meddai Ms Rayner.

"Dyma gyfle i ni weld newid, i droi tudalen newydd a dychmygu be allwn ni ei wneud gyda llywodraeth Lafur Gymreig, sydd â chymaint o syniadau gwych am y ffordd y gallwn ni symud ymlaen, a Llywodraeth Lafur Brydeinig, sy'n fodlon buddsoddi yn y tymor hir - cael y seiliau hynny'n gadarn a chael adfywiad tymor hir.

"Dim mwy o chwarae gemau - mae Keir wedi gwneud hynny'n glir. Mae'n rhaid gwasanaethu pobl Cymru."

Wrth ymateb i'r ffaith nad ydy Mr Gething yn gwneud cyfweliadau i'r cyfryngau yn y digwyddiad ddydd Gwener, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies bod y prif weinidog yn cael ei weld fel rhywun "oedd ddim yn atebol gan wleidyddion Llafur ar ddwy ochr yr M4".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod rhoddion Mr Gething yn "wenwynig - ac mae Llafur yn gwybod hynny" gan ychwanegu "fel prif weinidog Cymru, mae ganddo swyddogaeth i fod yn atebol i bobl Cymru".

Pynciau Cysylltiedig

  • Y Blaid Lafur
  • Gwleidyddiaeth
  • Llywodraeth y DU
'Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan y Ceidwadwyr' - Angela Rayner (2024)
Top Articles
Latest Posts
Article information

Author: Tyson Zemlak

Last Updated:

Views: 6222

Rating: 4.2 / 5 (63 voted)

Reviews: 86% of readers found this page helpful

Author information

Name: Tyson Zemlak

Birthday: 1992-03-17

Address: Apt. 662 96191 Quigley Dam, Kubview, MA 42013

Phone: +441678032891

Job: Community-Services Orchestrator

Hobby: Coffee roasting, Calligraphy, Metalworking, Fashion, Vehicle restoration, Shopping, Photography

Introduction: My name is Tyson Zemlak, I am a excited, light, sparkling, super, open, fair, magnificent person who loves writing and wants to share my knowledge and understanding with you.